Near the entrance of Esgobty [Bishop’s house] there is
the most magnificent Magnolia tree. Around this time of year it is
particularly exciting as the green buds begin to blossom and the white flowers
begin to peep through. In a few weeks’ time the whole tree will be covered in
white blossom, beautiful and startling. Then the flowers will drop away
and we’ll be waiting for next year.
That reliable sign of new life every Spring is for me a
sign of the reliability of the love of God in creation. More than this, every
Spring we remember the resurrection of Jesus Christ: he who was crucified
yet who, in Christian faith, rose again, conquering the powers of sadness and
of death.
That theme of new life is particularly important for us
this year. This time last year we were just entering into lockdown. We
had no idea that a year later we would still be faced with the challenges of
Coronavirus.
In this last year a lot will have changed. People have
died. People have struggled. The whole of society has had to work very
hard, cooperating in order to bring us through the crisis.
But the promise of God at Easter is there will be new
life. There will be new beginnings, and with the help of God, we can build into
a fullness of new life, finding new ways to serve our communities, new ways to
enter into the joys of life, new ways to celebrate the new life into which God
invites us.
Ger y fynedfa i’r Esgobty mae yna goeden Magnolia fawr,
ysblennydd. Mae tua’r adeg yma o’r flwyddyn yn hynod gyffrous wrth i’r
blagur gwyrdd ddechrau agor a’r blodau gwyn ddechrau dangos eu pennau.
Mewn ychydig wythnosau, bydd y goeden gyfa’n flodau gwyn drosti, yn hardd
ac yn rhyfeddol; yna bydd y blodau’n disgyn a byddwn yn gorfod disgwyl am
flwyddyn arall.
Mae’r arwydd dibynadwy hwn o fywyd newydd bob Gwanwyn yn
arwydd o ba mor ddibynadwy yw cariad Duw yn y greadigaeth. A, phob
gwanwyn, byddwn yn cofio am atgyfodiad Iesu Grist a gafodd ei groeshoelio ac
eto, yn ffydd y Cristion, a gododd eto gan goncro grymoedd tristwch a
marwolaeth.
Mae thema bywyd newydd yn arbennig o bwysig i ni
eleni. Yr adeg yma y llynedd, roedden ni’n cychwyn ar y cyfnod clo.
Doedd gan neb ddim syniad y bydden ni, flwyddyn yn ddiweddarach, yn dal i orfod
wynebu heriau’r Coronafeirws. Ac yn y flwyddyn ddiwethaf hon, bydd llawer wedi
newid. Mae pobl wedi marw. Mae pobl yn cael trafferth. Bu’n rhaid i
gymdeithas gyfan weithio’n galed iawn i gydweithio er mwyn i ni oroesi’r
argyfwng. Ond addewid Duw adeg y Pasg yw y bydd yna fywyd newydd. Bydd
yna ddechreuad newydd a, chyda help Duw, gallwn ni adeiladu i lawnder bywyd
newydd, canfod ffyrdd newydd o wasanaethu ein cymunedau, ffyrdd newydd o ganfod
llawenydd bywyd, ffyrdd newydd o ddathlu’r bywyd newydd y mae Duw’n ein gwahodd
ni iddo.